Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Gallaf bwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf ac ymgysylltiad agored rhwng y Llywodraethau ar bob cyfle. Mae ansefydlogrwydd Llywodraeth y DU a newid Gweinidogion yn fynych wedi ei gwneud yn anodd ffurfio cysylltiadau hirhoedlog, cynhyrchiol, sy'n hanfodol ar gyfer creu sylfaen i gysylltiadau rhynglywodraethol cadarn.