Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 9 Tachwedd 2022.
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr ateb hwnnw a'r holl waith y mae hi'n ei wneud fel Comisiynydd, ond ar lefel bersonol hefyd? Rwy'n gwybod eich bod chi yr un mor angerddol a minnau ynghylch ymgyrch y Rhuban Gwyn. Fy rôl i fel llysgennad yr ymgyrch yw hyrwyddo i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel ynghylch trais dynion yn erbyn menywod. Rydym wedi clywed eisoes gan Joyce Watson beth yn union fydd staff y Senedd yn ei wneud i annog pob aelod o staff, yn enwedig dynion, i wneud yr addewid. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i wneud yr apêl honno i'r holl staff ar draws y Senedd, pan fyddant yn gwneud yr addewid, eu bod yn ei olygu?