Ffreutur y Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:15, 9 Tachwedd 2022

Roedd y meini prawf gwerthuso ansoddol a ddefnyddiwd er mwyn aildendro’r gwasanaethau arlwyo yn cynnwys amrywiaeth o feysydd i gyflawni amcanion y Senedd ar gyfer y gwasanaeth. Cafodd cost a gwerthuso ansawdd eu rhannu 30:70—30 y cant ar gyfer cost a 70 y cant ar gyfer ansawdd. 

Roedd enghreifftiau o'r prif feini prawf gwerthuso ansawdd yn cynnwys, er enghraifft, sut y byddai'r gwasanaeth yn cefnogi ein hamcanion cymdeithasol ac amgylcheddol, ac amcanion o ran cynaliadwyedd, dulliau arloesol ar gyfer y gwasanaeth, a recriwtio a datblygu staff. Cafodd y ddarpariaeth o ran bwydlenni a ryseitiau hefyd eu hystyried ar gyfer y gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau lletygarwch, a hyn i gyd wedi'i werthuso o fewn y 70 y cant ar gyfer ansawdd.