Ffreutur y Senedd

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:17, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Ni allaf ateb yn benodol yn yr achos hwnnw; nid oes gennyf yr wybodaeth wrth law ynglŷn â'r achrediad penodol hwnnw, ond rwy'n fwy na pharod i edrych arno. Mae'n achrediad pwysig gan Gymdeithas y Pridd. Rwy'n fodlon darganfod a yw hynny'n wir am y contractwr newydd, a byddaf yn ysgrifennu atoch gyda'r cadarnhad hwnnw, neu fel arall. Ac os mai 'fel arall' ydyw, byddaf yn edrych i weld pam fod y contractwr presennol wedi cael ei ddewis yng ngoleuni hynny ac a oes unrhyw agweddau eraill ar feini prawf y contractwr presennol sy'n cyflawni'r hyn a wnaed gan y contractwr blaenorol, neu hyd yn oed yn rhagori ar hynny. Felly, fe wnaf rywfaint o gloddio, os nad oes ots gennych—heb chwarae ar eiriau'n fwriadol—ar achrediad Cymdeithas y Pridd. Fe wnaf rywfaint o gloddio ar hyn ac fe wnaf sicrhau bod y Senedd yn cael gwybod am yr achrediad penodol a godwyd gennych, ac mae'n faes pwysig imi ei archwilio.