Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch. Capel y Tabernacl, Treforys. Eleni yw 150 mlynedd ers agor capel annibynnol y Tabernacl yn Nhreforys. Byddai'r rhai oedd yn gwylio Dechrau Canu Dechrau Canmol ddydd Sul wedi gweld y capel yn llawn a gweld ysblander y tu mewn a'r tu allan. Cynlluniwyd gan y pensaer John Humphrey a'i adeiladu ar gost o £15,000 ym 1872, sy'n cyfateb i dros £1 miliwn heddiw. Mae'n gapel mawr.