Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch S4C, sydd a'i phencadlys yng Nghaerfyrddin, ar ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed wythnos diwethaf. Fe sefydlwyd y sianel ar 1 Tachwedd 1982, a dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni yn cofio cwtsho o flaen y teledu ar y noson hanesyddol honno. Mae yna atgofion melys iawn gyda ni o'r lansiad.
Dros y degawdau diwethaf, mae'r sianel wedi creu rhaglenni a chymeriadau eiconig sydd wedi aros yn y cof i sawl cenhedlaeth o wylwyr: Superted, Sali Mali, C'mon Midffîld!, Cefn Gwlad, Pobol y Cwm, ac wrth gwrs gemau rygbi a phêl-droed cofiadwy iawn.
Mae'r sianel wedi datblygu nid yn unig i fod yn rhan bwysig o fywydau personol gymaint ohonom ni, ond mae ei chyfraniad i'n taith i fod yn genedl hyderus, gynhwysol a hyfyw erbyn heddiw wedi bod yn un nodedig iawn.
Tra bo heriau'n parhau, mae'r sianel wedi llwyddo'n rhyfeddol i esblygu wrth i'n harferion gwylio newid gymaint. Pan gafodd S4C ei lansio, dim ond pedair sianel oedd, ond erbyn hyn mae byd digidol ar blatfformau amrywiol yn bodoli, gyda dewis o gannoedd o sianeli. Ond diolch i ddyfeisgarwch y staff a rheolwyr, mae'r sianel wedi llwyddo i adlewyrchu Cymru'r unfed ganrif ar hugain i wylwyr ar draws y byd, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru.
Wrth ddathlu'r 40, rhaid hefyd gydnabod y rheini a ymgyrchodd mor ddiwyd dros ei sefydlu, ac a aberthodd gymaint er budd y sianel: Gwynfor Evans, aelodau Cymdeithas yr Iaith, a phobl gyffredin oedd yn gweld pwysigrwydd cael sianel Gymraeg i ddyfodol yr iaith. Mae ein dyled ni yn fawr iddyn nhw.
Felly, hir oes i'r sianel ac ymlaen i'r 40 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.