Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig am eu hymchwiliad manwl a'u hadroddiad ar ddyfodol lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a arweiniodd at y ddadl hon heddiw.
Fel y gwyddom i gyd, mae profiad y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn her sylweddol i'r rhan fwyaf o fusnesau yn y rhan fwyaf o sectorau yma yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Nawr, nid wyf am ddilyn Luke Fletcher drwy adrodd am rai o fy mhrofiadau personol yn gweithio yn y sector lletygarwch, ond rwy'n cydnabod nad oedd pawb yr ymdriniais â hwy yn garedig nac yn barchus. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld y duedd honno'n cynyddu, yn anffodus; mae nifer o'r Aelodau wedi sôn am hynny, yn enwedig o ystyried y prinder llafur sylweddol sy'n bodoli yn llawer o'r sectorau hyn, ac yn ehangach yn wir. Ac rwy'n cael fy atgoffa'n rheolaidd, er bod prinder staff yn y rhan fwyaf o'r byd ar hyn o bryd, byddwch yn garedig ac yn barchus wrth y bobl sydd yno, ac mae hynny'n bwysig iawn i'r math o awyrgylch rydym eisiau ei greu i bobl sy'n gweithio yn y sector hwn a phob sector arall.
Nawr, yn ystod ac ers y pandemig, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithio'n ddi-baid i geisio cefnogi busnesau a gafodd eu heffeithio, nid yn unig y cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy ffyrlo—ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n un o'r mesurau gwell a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig, ac roeddwn i'n sicr yn ei groesawu—ond wedyn hefyd darparodd Llywodraeth Cymru y gronfa cadernid economaidd ac yn wir, rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth yn y busnesau sydd wedi goroesi ac sydd wedi llwyddo i ddod drwy'r pandemig mewn cyflwr cymharol gadarnhaol. Ond wrth gwrs, mae ein heconomi'n wynebu heriau sylweddol yn y tymor byr ac yn hirdymor: yr argyfwng costau byw presennol, costau ynni uwch, ac wrth gwrs, prinder o ran sgiliau a recriwtio sy'n dal i fod gyda ni. Rwy'n cydnabod maint a nifer yr heriau sy'n wynebu busnesau yn llawn. Rwy'n deall pam fod pobl sy'n arwain, rheoli a gweithio yn y busnesau hynny'n bryderus, ac nid oes amheuaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa. Mae angen inni ymadfer yn sgil niwed economaidd y pandemig, y ffaith bod llawer o fusnesau bellach heb arian yn weddill ar ôl goroesi; mae angen inni fynd i'r afael â realiti ein cysylltiadau masnachu newydd ar ôl Brexit ac effaith hynny ar lawer o fusnesau yn y sectorau hyn, ac wrth gwrs, yr argyfwng costau byw a'r argyfwng costau busnes.
Felly, mae ein cenhadaeth economaidd newydd a gyhoeddwyd gennyf y llynedd yn nodi'n glir y gwerthoedd a'r blaenoriaethau a fydd yn llywio'r dewisiadau y byddaf yn eu gwneud i gefnogi dyfodol ein heconomi. Ond Ddirprwy Lywydd, rydym eisoes wedi clywed gan nifer o siaradwyr am effaith y cynnwrf yn San Steffan a beth mae hynny wedi ei wneud i'r darlun economaidd ehangach, ac a dweud y gwir, y berthynas y gallwn ei chael gyda Llywodraeth y DU gyda chymaint o newidiadau gweinidogol. Ac nid wyf yn credu y gallaf agor y ddadl hon heddiw heb gydnabod yr her ryfeddol y mae'r ddau fis diwethaf yn arbennig wedi'i chreu i fusnesau ac yn wir, fel y cydnabu Vikki Howells, y ffaith—ac mae'n ffaith na ellir ei gwadu—fod gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru, yn y cyfnod adolygu gwariant hwn, wedi gostwng tua £4 biliwn mewn termau real. Ac roedd Vikki Howells hefyd yn cydnabod bod y darlun economaidd wedi gwaethygu'n sylweddol ers cwblhau'r adroddiad, a dyna realiti na ellir ei wadu. Bydd yn newid ffocws busnesau; bydd yn newid gallu'r Llywodraeth hon ac eraill i gynorthwyo busnesau nid yn unig i oroesi ond i ffynnu yn y dyfodol.
Mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod llai o incwm gwario gan gwsmeriaid i'w teimlo'n arbennig o fewn y sectorau hyn. Mae heriau pobl sy'n gweithio yn dod i mewn, ac unwaith eto, mae adroddiad Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol wedi cael eu cydnabod—yr effaith ar weithwyr nid yn unig o gael llai o arian yn eu pacedi cyflog eu hunain, ond yr effaith eto ar gwsmeriaid sy'n dod i mewn. Ac yn sicr, byddwn i'n croesawu ymchwiliad gan y pwyllgor hwn yn y dyfodol i edrych ar y darlun economaidd sy'n newid, a phan fydd Llywodraeth y DU wedi cwblhau ychydig rhagor o'i chyfleoedd a'r dewisiadau nid yn unig yn y gyllideb, ond y cynllun cymorth ynni yn y dyfodol, beth fydd hynny'n ei olygu i sectorau yn yr economi wrth symud ymlaen yn y dyfodol. Ac fe fyddai hynny'n sicr yn helpu i lywio dewisiadau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud yma yng Nghymru.
Nawr, rwy'n cydnabod bod cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU am y gyllideb wedi cynnig rhywfaint o gymorth. Mae'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi yn rhoi rhywfaint o ryddhad tymor byr i fusnesau, ond mae yna angen, sy'n cael ei gydnabod yn drawsbleidiol rwy'n siŵr, am olwg fwy hirdymor i fusnesau allu cynllunio. Ni allwch gynllunio i wneud dewisiadau dros y flwyddyn nesaf os nad ydych ond yn sicr o elfen o gymorth a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ac nid yn unig eglurder ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl hynny, ond pryd fydd yr eglurder hwnnw'n cael ei ddarparu. Ac fel y dywedais, rwy'n siŵr y bydd cydnabyddiaeth drawsbleidiol o'r angen nid yn unig am eglurder ynglŷn â beth yw'r dyfodol, ond i'r gostyngiadau gael eu trosglwyddo'n gyflym i fusnesau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu goroesi i edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Mae angen inni ddeall hefyd, wrth gwrs, beth fydd yn digwydd ar 17 Tachwedd. Bydd realiti'r dewisiadau hynny'n effeithio ar fwy na wasanaethau cyhoeddus yn unig; fe fyddant yn effeithio ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi'r economi, byddant yn effeithio ar gwsmeriaid, byddant yn effeithio ar weithwyr, byddant yn effeithio ar fusnesau a swyddi.
Ond wrth gwrs, pan edrychaf ymlaen at ein gallu i gefnogi busnesau, rydym yn trafod y materion hyn yn rheolaidd gyda busnesau eu hunain. Mae'r fforwm economi ymwelwyr yn cyfarfod yn rheolaidd; rwyf i fod i'w cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf i fod i gyfarfod â mwy o fusnesau unigol, nid yn unig mewn perthynas â heriau uniongyrchol, ond yn syth ar ôl 17 Tachwedd, byddwn yn cyfarfod eto. Cawsom uwchgynhadledd economaidd yn ddiweddar, unwaith eto i wrando ar sectorau ar draws yr economi ac yna i geisio teilwra ein hymateb a chael y sgwrs onest honno. Yr hyn sy'n wahanol am Gymru, wrth gwrs, yw ein bod yn gwneud hynny mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, gyda'n cynrychiolwyr undebau llafur. Ddoe mewn gwirionedd, cyfarfûm â'r sector manwerthu i fwrw ymlaen â'r weledigaeth sydd wedi'i chydgynhyrchu gan y Llywodraeth, busnesau ac undebau llafur, dan arweiniad ein cydweithwyr yn USDAW, ac i edrych ar y cynllun cyflawni i ddeall beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i gynnal y sector hwnnw ac i'w weld yn cael dyfodol teilwng, gyda gwaith gweddus yn ogystal â gwasanaethau gweddus sy'n cael eu gwerthfawrogi ym mhob un o'n cymunedau. Felly, rwy'n parhau i fod eisiau gweld grŵp llewyrchus o fusnesau o fewn y sectorau rydym yn eu trafod heddiw, a gweld hefyd sut y gallwn wneud hynny o fewn realiti'r cyd-destun. Mae ein huchelgais yn parhau, er enghraifft, mewn twristiaeth, i dyfu'r sector er lles Cymru. Mae hynny'n golygu twf economaidd sy'n sicrhau manteision i bobl a lleoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a'r manteision iechyd sy'n dod o waith da.
I droi at argymhellion y pwyllgor, rwy'n credu ei bod hi'n braf clywed croeso cyffredinol i ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a sut y byddwn yn ceisio gweithio ochr yn ochr â'r rheini, ac yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor maes o law, wrth gwrs, ynglŷn â'r cynnydd a wnawn ar yr argymhellion hynny.
Ar beth o'n hymateb ar ardrethi busnes, wrth gwrs, gydag argymhellion 1 a 2, rydym yn darparu'r pecyn £116 miliwn ychwanegol hwnnw. Bydd hwnnw ar gael tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, mae angen inni weld realiti'r hyn sy'n mynd i ddod yn y gyllideb ar 17 Tachwedd ac a oes digwyddiad cyllidol i ddod yn y gwanwyn hefyd. Ond mae yna ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar ddiwygio ardrethi annomestig, a bydd hwnnw ar agor tan 14 Rhagfyr, a hoffwn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw.
Ar fuddsoddiad cyfalaf, mae Croeso Cymru yn darparu buddsoddiad cyfalaf i gefnogi busnesau sy'n gweithredu ym maes twristiaeth a lletygarwch, gyda thair sianel benodol: sef cronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru sy'n £50 miliwn; y buddsoddiad cyfalaf strategol sy'n £2.5 miliwn; ac wrth gwrs, rhaglen flynyddol y Pethau Pwysig.
Ar argymhelliad 8, rydym wedi gwneud newidiadau i drothwyon hunanarlwyo yn ddiweddar. Nod y rhain yw cymell y defnydd o eiddo a helpu i ddod ag eiddo gwag a heb ei ddefnyddio'n ddigonol yn ôl i ddefnydd. Os nad yw eiddo'n cael ei weithredu fel busnes, bydd treth gyngor i'w dalu arno.
Ar argymhellion 9 a 10, rydym yn ymgynghori ar roi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, a dechreuodd ymgynghoriad llawn ar 20 Medi. Mae'n braf clywed mwy nag un ochr i'r ddadl hon, a Sarah Murphy, yn amlwg, yn amlinellu safbwyntiau gwahanol o fewn ei hetholaeth ei hun a thystiolaeth ryngwladol o hyn. Rwy'n sylweddoli y byddai rhai cyfranwyr yn hoffi gweld y Llywodraeth hon yn ymuno ag eraill i wneud tro pedol yn rheolaidd ac osgoi ymrwymiadau eu maniffesto, ond rydym yn benderfynol o wneud yr hyn y dywedasom wrth bobl Cymru y byddem yn ei wneud drwy lunio, cyflawni ac ymgynghori ar ardoll.
Rwy'n gallu gweld bod fy amser yn brin, ond hoffwn orffen—