6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:44, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? Mae'r Aelodau oll wedi crybwyll sut mae'r diwydiannau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch yn ganolog i'n holl gymunedau, a dyna pam ei bod mor bwysig fod Llywodraeth Cymru'n deall ac yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sectorau hyn. 

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cael y polisïau cywir ar yr adeg gywir; yn wir, mae'n hanfodol ar gyfer economi Cymru a'r gallu i fyw'n weddus ynddi. Rydym i gyd eisiau i'n trefi a'n dinasoedd fod yn fannau ffyniannus, bywiog, cymunedol, ac mae cefnogi'r sectorau hyn yn rhan enfawr o adeiladu'r rhwydweithiau cymunedol ffyniannus hynny yma yng Nghymru. Nawr, fel y dywedodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r Aelod dros Ogledd Cymru, mae llawer o'n busnesau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau yn gyflogwyr allweddol yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.

Mae Aelodau, megis Luke Fletcher a Tom Giffard, yr Aelodau dros Orllewin De Cymru, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a'r Gweinidog yn wir oll wedi crybwyll y pandemig a'i effeithiau economaidd ar ein sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth. Roedd yn sioc economaidd nad oedd unrhyw ddiwydiant yn barod ar ei chyfer, a dylem gymryd eiliad i fyfyrio ar wytnwch a gwaith caled y rhai sy'n gweithio ym maes lletygarwch, twristiaeth a manwerthu mewn cyfnod a oedd o reidrwydd yn eithriadol o anodd. Wrth gwrs, mae helpu'r sectorau hyn i ymadfer yn sgil y pandemig ac esblygu i ffyrdd newydd o weithio yn her fawr, ond rwy'n credu ei fod yn gyfle gwych hefyd i Lywodraeth Cymru ailystyried sut mae'n gweithio gyda'r sectorau hyn wrth symud ymlaen. Mae'r diwydiannau hyn yn wynebu heriau o bob cyfeiriad, boed yn bolisïau trethiant, yn newid i fasnach ar-lein, neu lai o hyder ymhlith pobl ifanc i ymgeisio am swyddi. Roedd Arwyn Watkins o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn iawn i ddweud,

'Pe bai nifer y swyddi sydd wedi'u colli yn y sector hwn dros y 24 mis diwethaf wedi'u colli mewn unrhyw sector arall, byddai pawb yn gandryll a bod yn onest, ac nid oes neb yn dweud unrhyw beth yn ei gylch o gwbl, ar wahân i'r cyflogwyr sy'n ceisio llenwi'r swyddi gwag.'

Ac felly, mae'r neges yn eithaf syml; mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn well a blaenoriaethu'r diwydiannau hyn a'r bobl sy'n gweithio ynddynt.

Mae Aelodau, fel yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi siarad yn gwbl briodol am wella sgiliau, a fydd yn helpu i greu gwell swyddi ac o fudd i'r sectorau hyn a'n heconomi yn fwy cyffredinol. A dyna pam mae'r pwyllgor wedi argymell yn benodol y dylai Llywodraeth Cymru nodi mwy o fanylion ynglŷn â lle mae'n gweld posibiliadau o fewn ei gynlluniau arfaethedig i ehangu'r rhaglen brentisiaethau ar gyfer llwybrau gyrfa lefel uwch mewn twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys ar gyfer gradd-brentisiaethau.

Hefyd, nododd Aelodau fel yr Aelod dros Gwm Cynon bwysigrwydd gwaith teg, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn derbyn bod cyfleoedd gwirioneddol i symud gwaith teg yn ei flaen drwy'r strategaeth fanwerthu newydd a chynllun gweithredu'r economi ymwelwyr. Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am fwy o eglurder ynghylch rôl contract economaidd Llywodraeth Cymru i sbarduno canlyniadau gwaith teg, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y maes hwn.

Ddirprwy Lywydd, galwyd ein hadroddiad yn 'Codi'r bar' oherwydd mai dyna'n union sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud. Fel y dywedodd Luke Fletcher, mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor, ond nawr, rydym am weld yr union argymhellion hynny'n cael eu gweithredu. Mae codi lefel yr uchelgais ar gyfer y sectorau hyn yn hanfodol a bydd yn helpu i wella ansawdd bywyd ein dinasyddion a'n hymwelwyr.

Felly, rydym wedi clywed cyfraniadau hynod ddiddorol gan yr Aelodau heddiw, ac ymateb adeiladol gan y Gweinidog, ac rwyf am ei gwneud yn glir y prynhawn yma, fel y dywedodd yr Aelod dros Gwm Cynon, y bydd hyn yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i'r Pwyllgor Economi, Masnach, a Materion Gwledig. Rwyf am sicrhau'r Gweinidog y bydd y pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar y maes hwn wrth symud ymlaen, yn enwedig o ystyried bod yr heriau ariannol wedi cynyddu i'r sectorau hyn ers cyhoeddi ein hadroddiad.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r rhai a gyfrannodd at y drafodaeth y prynhawn yma a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir ar weithredu ein hargymhellion maes o law? Diolch yn fawr.