Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pleser yw siarad prynhawn yma a thynnu sylw'r Senedd at waith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod blwyddyn lawn gyntaf y chweched Senedd. Cyn dechrau, hoffwn gofnodi ein diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i ymddangos ac ateb ein cwestiynau yn rheolaidd.