Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Yn sicr, Andrew. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy bob polisi unigol y soniwyd amdanynt mewn cynnig eang iawn, ond rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Un o'r pethau mawr i ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr holl werth o'n cadwyn gyflenwi bwyd, ac wrth wneud hynny, ein bod yn helpu'r proseswyr i ddod i Gymru a defnyddio'r cynnyrch hwnnw. Ond ymddiheuriadau—mae'r Dirprwy Lywydd ar fin dweud wrthyf fod fy amser bron ar ben ac rwyf eto i fynd drwy hanner arall fy araith.