Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Llywydd, mae’r argyfwng costau byw, ac argyfyngau mewn rhannau eraill o'r byd, yn creu pwysau ar y system dai. Ar gyfartaledd, mae dros 1,400 o bobl yn cyflwyno eu hunain i wasanaethau digartrefedd bob mis sydd angen llety dros dro. Mae dros 6,000 o bobl sy'n ffoi rhag rhyfel yn Wcráin wedi cael noddfa yng Nghymru ers mis Mawrth.