Cartref i Bawb

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:40, 15 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, yn ddiweddar, cwrddais â Trivallis, darparwr tai cymdeithasol mwyaf RhCT, ac roedd yn dda iawn cael diweddariad ganddyn nhw ynghylch sut maen nhw wedi gallu gwneud defnydd o raglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro Llywodraeth Cymru i wneud tai gwag yn addas i'w defnyddio unwaith eto gyda'r pwrpas penodol o symud pobl a theuluoedd allan o lety gwely a brecwast dros dro. Pa fath o fesurau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith i fonitro'r cynllun hwn a gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni amcan Llywodraeth Cymru i bawb yng Nghymru gael cartref diogel, addas, parhaol?