Rhandiroedd Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:58, 15 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae gen i randiroedd yn fy etholaeth sydd wedi elwa ar grantiau a oedd ar gael, ond mae yna lawer iawn o bobl o hyd sydd eisiau rhandir ond yn methu cael un. Mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, y ddau gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru ei hun ac awdurdodau lleol, dir y maen nhw'n berchen arno ond, ar hyn o bryd, nid oes ganddyn nhw ddefnydd buddiol ar ei gyfer. A fydd Llywodraeth Cymru'n annog defnyddio tir o'r fath ar gyfer rhandiroedd, yn hytrach na'i weld yn cael ei adael?