Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Llywydd, diolch. Roeddwn i'n ceisio egluro i'r Aelod bod y broblem y mae'n ei nodi yn un go iawn, ond mae'r ateb y mae'n ei gynnig yn creu problem arall, problem ddifrifol iawn, yn waeth. Ni fyddwn ni'n datrys y broblem yn y ffordd honno. Yr unig ffordd y byddwn ni'n ei datrys yw drwy gasglu ynghyd gyfraniad nifer o wahanol asiantaethau a sefydliadau. Mae hynny'n cynnwys adeiladwyr tai. Rwy'n credu eu bod nhw'n cydnabod hynny. Mae technegau y gallant eu datblygu a fyddai'n golygu y gall adeiladu tai ddigwydd heb y difrod a fyddai'n cael ei achosi gan yr ateb gor-syml a gynigiodd James Evans i ni, a fyddai heb os, yn arwain at lygredd ychwanegol.