Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, diolch i Peter Fox am ei sylwadau agoriadol caredig, ac rwy'n cydnabod, fel y ceisiaf wneud bob amser, y profiad sydd ganddo fel cyn arweinydd cyngor yn gorfod gwneud penderfyniadau gwirioneddol pan fo dewisiadau anodd iawn ganddo.
A gaf i ddweud, Llywydd, fy mod yn croesawu penderfyniad Prif Weinidog y DU i fod yn bresennol yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig? Ef yw'r Prif Weinidog cyntaf i wneud hynny ers cyfnod hir iawn. Rwy'n credu ei fod yn benderfyniad pwysig, symbolaidd, o ystyried y tensiynau parhaus mewn perthnasoedd mewn cysylltiad â phrotocol Gogledd Iwerddon, ac o ystyried y pwysau sydd ar ddyddiadur unrhyw Brif Weinidog, y bu iddo neilltuo amser i fod yno ac i gynnal cyfarfodydd ar wahân gydag ystod o unigolion gwahanol. Rwy'n credu bod hynny'n gymeradwy ac rwy'n gobeithio, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, bod y dechrau adeiladol hwnnw yn gosod naws wahanol i'r dyfodol o ran cysylltiadau rhyng-lywodraethol.
Yn ogystal â chyfarfodydd dwyochrog gyda Phrif Weinidog y DU, bu hefyd yn gadeirydd cyfarfod cyntaf cyngor y Prif Weinidog. Roedd hyn yn rhan o'r adolygiad cysylltiadau rhyng-lywodraethol a ddaeth i ben ym mis Mawrth eleni. Doedd dim cyfarfod blaenorol o'r cyngor wedi ei gynnal. Felly, eto, yn gynnar iawn yn ei gyfnod fel Prif Weinidog, fe wnaeth Mr Sunak hi'n flaenoriaeth i gadeirio cyfarfod o'r cyngor hwnnw, ac roeddwn i'n falch o weld hynny hefyd.
Fe wnes i, wrth gwrs, achub ar y cyfle, gydag eraill—roedd Canghellor y Trysorlys yn bresennol yn y cyngor, felly hefyd Michael Gove—i godi'r mater o gynyddu budd-daliadau, a'r clo triphlyg i bensiynwyr, ond roeddwn hefyd yn gallu cofnodi cyfres o gamau gweithredu, eithaf cymedrol ond yn bwysig iawn ym mywydau'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, yr wyf yn credu y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd yn ei datganiad yr hydref.
Dadleuais yn gryf dros ddiddymu taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu. Beth all fod yn waeth na chanfod, pan fyddwch chi o'r diwedd wedi llwyddo i gasglu ychydig o arian i'w roi tuag at gyflenwad trydan, bod yr arian hwnnw eisoes wedi'i lyncu i dalu tâl sefydlog am yr holl ddyddiau hynny pan nad oeddech chi'n gallu defnyddio trydan o gwbl? Mae'n anghyfiawnder economaidd dwfn, a gallai'r Llywodraeth hon ddiddymu'r taliadau sefydlog hynny a gwneud i'r cwmnïau amsugno'r costau, fel y gwnaeth y Llywodraeth pan ddywedodd wrth y BBC bod yn rhaid i'r gorfforaeth dalu cost trwyddedau am ddim i bobl dros 75 oed. Gallent gymryd eu hesiampl eu hunain a'i gymhwyso i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu.
Dadleuais am gynnydd mewn taliadau disgresiwn at gostau tai a'r lwfans tai lleol. Dyma enghraifft hurt o Lywodraeth sy'n arbed rhywfaint o arian gydag un llaw—symiau bach o arian—drwy fethu ag uwchraddio'r lwfansau hynny yn unol â chwyddiant, a thalu llawer, llawer mwy gyda llaw arall pan fydd y bobl hynny'n cael eu hunain yn ddigartref oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r rhenti mwyach. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt pwrs economaidd, cyhoeddus i roi'r arian hwnnw mewn lle gwahanol lle gall wneud yn well.
Yna, cynigiais i aelodau'r cyngor rannu'r profiad a gawsom yma yng Nghymru, dan arweiniad fy nghydweithiwr Jane Hutt, i ddarparu gwarantau yn erbyn colled i undebau credyd, fel eu bod yn gallu cynnig benthyciadau i bobl a fyddai'n cael eu hystyried yn ormod o risg fel arall. Mewn asesiad arferol o risg, ni fyddech yn rhoi benthyg arian i'r unigolyn hwnnw. Mae undebau credyd yng Nghymru yn gallu gwneud hynny oherwydd rydym yn cynnig gwarant iddyn nhw yn erbyn colled. Y canlyniad bendigedig, Llywydd, yw hyn: wrth gwrs rydych chi'n colli arian pan fyddwch chi'n rhoi benthyg i bobl sydd mewn amgylchiadau anodd iawn, iawn, ond mae 80 y cant o'r arian y mae'r undebau credyd yn ei fenthyg i bobl a gwmpesir gan ein gwarant yn dod yn ôl o'r bobl eu hunain, oherwydd y ffordd y mae undebau credyd yn gweithredu. Mae hynny'n faes arall lle gallai Llywodraeth y DU, gyda buddsoddiadau cymedrol, helpu'r bobl hynny a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd i fenthyg arian o rannau drutaf a pheryglus y farchnad.