Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Rwy'n credu bod yr wythnos hon yn mynd i fod yn wythnos wael iawn i wasanaethau gofal cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n aros i weld beth fydd yn digwydd ddydd Iau, ond mae unrhyw ddarn o wybodaeth sy'n gollwng o'r Drysorlys yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn mynd i roi'r gorau i'w hymrwymiad i gyflwyno eu fersiwn nhw o'r adolygiad Dilnot. Byddwch chi wedi gweld sylwadau cwbl ddeifiol Syr Andrew Dilnot ei hun ar y peth diweddaraf hwn—wel, rwy'n credu mai 'brad' yw'r gair y mae'n ei ddefnyddio—o'r gwaith y gwnaeth ef ar ran Llywodraeth Geidwadol. Ac os yw hynny'n wir, mae ganddo effeithiau uniongyrchol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, fel y gwyddom ni.
Mae hi bob tro wedi bod yn un o'r posau mawr o geisio symud ymlaen ar ofal cymdeithasol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y grŵp arbenigol a gafodd ei sefydlu yn sgil y cytundeb cydweithredu yn y maes hwn. Ond mae'r adroddiad yn dweud wrthych chi fod rhyng-gysylltiad yn y penderfyniadau gan Lywodraeth y DU a'r penderfyniadau y mae modd eu gwneud yma yng Nghymru yn wirioneddol iawn. Rwy'n ofni, os mai'r ateb sydd gan Lywodraeth y DU i'r anawsterau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol yw dweud y gellir cynyddu'r dreth gyngor yn Lloegr, ei fod wir yn ateb enbyd i'r hyn sydd yn broblem ddifrifol iawn.
Rwyf i wedi ateb y cwestiwn sawl gwaith, Llywydd, ynglŷn â'r pwerau sydd gennym ni fel Llywodraeth o ran cyfraddau Cymru o dreth incwm, a'r un ateb ydyw: byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hynny pan fydd gennym ni'r ffeithiau llawn, ac mewn ffordd drefnus, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb yr ydym ni wedi'i nodi ar gyfer cydweithwyr yma yn y Siambr. Ond gadewch i mi ddweud hyn, Llywydd: ni ddylai unrhyw un gredu bod codi'r gyfradd sylfaenol o dreth yn benderfyniad hawdd yma yng Nghymru. Rydym ni'n sôn am dynnu arian o bocedi pobl sy'n ennill £12,000 y flwyddyn. Rwyf i eisoes wedi dweud y prynhawn yma fy mod i'n credu mai un o'r camgymeriadau mawr sydd ar fin cael ei wneud yw bod y dirwasgiad yr ydym ni eisoes ynddo ar fin cael ei wneud yn waeth trwy gymryd pŵer prynu allan o bocedi pobl. Mae'r person hwnnw sy'n ennill £12,000 yma yng Nghymru yn wynebu'r holl filiau yr ydym ni wedi siarad amdanyn nhw yma yn y Siambr—y biliau ynni, y biliau bwyd, y biliau rhent, yr holl bethau hynny. Ni ddylai neb feddwl bod penderfyniad i gymryd mwy o arian allan o boced y person hwnnw yn un y byddem ni'n ei wneud yn ysgafn.