Tai Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:04, 15 Tachwedd 2022

Diolch yn fawr iawn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae hyn wedi codi o 65,000 o gartrefi yn 2018, ac mae elusennau'n disgwyl i'r nifer godi ymhellach. Ac mae tueddiadau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru yn peri pryder mawr, gyda nifer yr aelwydydd ar restrau aros yn 2022 lan bron 50 y cant yn sir Benfro a dros 100 y cant ym Mhowys, o'i gymharu â ffigurau pedair blynedd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud fod sir Gâr, dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, wedi dangos patrwm gwahanol, gyda gostyngiad o ryw 12 y cant yn nifer yr aelwydydd sy'n aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, felly, o sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gyflawni hyn? A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i archwilio pa wersi y gellid eu dysgu o arfer da sir Gâr mewn ardaloedd awdurdodau eraill yng Nghymru?