Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Prif Weinidog, mae eich 'Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd Sero Net' ar gyfer 2021-25 yn nodi'r amrywiaeth o uchelgeisiau a'r camau gweithredu a ddisgwylir drwy weithio'n agos mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau. Mae cyllideb ddangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn nodi £2.9 biliwn ar gyfer newid hinsawdd i fuddsoddi yn y meysydd cyflenwi hynny lle gallai Llywodraeth Cymru arwain, yn ddefnyddiol, y newid yr ydym ni i gyd eisiau'i weld. Rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r her ariannol sylweddol sydd o'n blaenau. Yng ngoleuni ei drafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet, faint o'r cyllid hwnnw ar gyfer 2023-24 sydd nawr yn ddiogel, ac, os nad yw, beth mae hyn yn ei olygu i'ch cynllun chi? Diolch.