Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Cafodd gofal plant am ddim cyffredinol ei gydnabod fel y cyfartalwr mwyaf gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Er bod ehangu mynediad at ofal plant rhad ac am ddim o fudd uniongyrchol i blant yn eu blynyddoedd ffurfiannol nhw, mae hefyd—fel gwnaethoch chi ei gydnabod—fuddion ehangach iddo wrth fynd i'r afael â thlodi. Fel y gwyddom ni, mae'n tynnu rhai o'r rhwystrau i helpu rhieni, mamau yn enwedig, i ddychwelyd i'r gwaith.
Fe wyddom ni fod prinder gofal plant yn un o'r rhwystrau sy'n cael eu mynegi amlaf o ran cyflogaeth menywod, gan arwain at gyfranogiad economaidd is a phrinhau dewisiadau menywod o ran gyrfa. Yng Nghymru, mamau yw 86 y cant o rieni sengl, a 63 y cant o famau mewn cartrefi dau riant sy'n gyfrifol ar eu pennau eu hunain neu'n bennaf am ofal plant, o gymharu â dim ond 17 y cant o dadau. Dyna pam mae hyn yn hollbwysig o ran ymdrechu dros Gymru gyfartal ar sail rhyw. Dyna pam, fel roeddech chi'n cyfeirio, mae gofal plant am ddim o 12 mis oed, gan ddechrau gyda gweithredu hynny ar gyfer plant dwyflwydd oed yn y tymor cyntaf hwn—dyna pam yr oedd hwn yn addewid allweddol i Blaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru 2021, a dyna pam mae'n ymddangos yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid ni.
Fel gwyddom ni, mae'r sector yn wynebu cyfnod anodd iawn. Drwy gydol COVID, daeth darparwyr gofal plant i'r adwy mewn argyfwng cenedlaethol gan eu gwneud eu hunain yn ganolfannau gofal plant i'n gweithwyr allweddol ni, a oedd yn golygu y gallai nyrsys, meddygon ac athrawon barhau i weithio. Mae angen cymaint o gymorth a chefnogaeth â phosibl ar y sector erbyn hyn, wrth i ni wynebu'r argyfwng costau byw, fel bod eu gwasanaethau hanfodol nhw'n parhau i fod ar gael.
Cyfyngwyd ar fynediad at ofal plant am ddim hefyd gan fylchau difrifol yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Dangosodd arolwg gofal plant yn 2022 gan yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant fod digonolrwydd gofal plant wedi gostwng ers 2021 ar gyfer pob categori yng Nghymru, ac eithrio gofal ar ôl ysgol i bobl ifanc 12 i 14 oed. Llai na thraean o awdurdodau lleol, 29 y cant, sydd â gofal plant digonol ar gyfer y 30 awr o hawl i addysg gynnar am ddim o dan y cynnig gofal plant. Gwelir prinder sylweddol i blant anabl a rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, heb unrhyw awdurdod lleol yn mynegi bod gofal plant yn unol â'r rhain ar gael ym mhob ardal yn ei awdurdod.
Ond, fel y gwnaethoch chi gydnabod hefyd, mae yma gyfle ac angen dirfawr i sicrhau darpariaeth o ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru. Mae gofal plant yn rhan o'r maes addysg a gofal cynnar ehangach, a thrwy wasanaethau a lleoliadau gofal plant y blynyddoedd cynnar mae miloedd o blant a theuluoedd ledled Cymru yn cael eu profiadau cyntaf o'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Fe hoffwn i ofyn yn benodol heddiw, dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau yna—. Roeddwn i'n falch o weld y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at allgáu digidol ac yn cydnabod rhai o'r heriau yn hynny, oherwydd rydym ni'n gweld niferoedd cynyddol o bobl yn dewis peidio ag adnewyddu band eang, er enghraifft, yn eu cartrefi nhw, yn rhan o reoli eu costau byw. Mewn rhai ardaloedd, ac mae hynny'n cynnwys ardaloedd ychydig filltiroedd yn unig o Gaerdydd, fe all hyn olygu bod ei bod hi'n anodd i chi gael cysylltiad sy'n ddigon cryf i allu defnyddio gwasanaethau digidol. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth yn hynna.
Yn amlwg, nid yw oriau pethau fel llyfrgelloedd cyhoeddus yn hyblyg bob amser, oherwydd, yn aml, fe allai rhieni edrych ar y dewisiadau hyn gyda'r nos neu ar y penwythnosau. Mae rhai llyfrgelloedd ar agor ar ddydd Sadwrn, ond nid yw pob un. Felly, rwyf i am ofyn i chi: sut ydym ni am sicrhau na fydd allgáu digidol yn rhwystr i lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd? Rwy'n credu bod llawer o bethau i'w croesawu yma, ond rwy'n poeni o ran y rhai sy'n gallu defnyddio'r dechnoleg—nid mater o anallu o ran ei defnyddio yw hwn—ond y ffaith nad oes posibl ei defnyddio hi oherwydd yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd.
Hefyd, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r bylchau difrifol yn y ddarpariaeth o ofal plant, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer plant anabl, ac, fel cafodd ei grybwyll, ar gyfer rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, ac rwy'n credu y gall y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod ynghynt o ran pobl sy'n byw mewn ardaloedd cefn gwlad, lle gall hygyrchedd neu drafnidiaeth fod yn rhwystr rhag cael gafael ar ofal plant? Felly, sut mae sicrhau y bydd pawb sydd ei angen yn gallu ei gael, yn y mannau ac ar yr adeg y maen nhw ei angen?
Ac yn olaf, os caf i ofyn, o ran y gwasanaeth digidol cenedlaethol, rwy'n nodi i werthusiad gael ei wneud a bod treialon wedi bod, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn o ran yr adborth adeiladol a gafwyd. A wnewch chi roi gwybod i ni ymhle mae hwn ar gael i'r cyhoedd, oherwydd nid wyf i wedi gallu dod o hyd iddo, er mwyn ni gael deall o'r gwerthusiad a'r adborth ar ôl y treialon beth efallai yw rhai o'r heriau y mae angen i ni eu goresgyn? Diolch i chi.