5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:45, 15 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Ynghyd â chenhedloedd blaengar eraill â thimau yn y twrnamaint hwn rydym ni wedi codi pryderon difrifol am hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ yn Qatar. Cododd y Prif Weinidog y materion hyn yn uniongyrchol gyda'r llysgennad ar ran Qatar i'r DU. Ers hynny rydw i wedi ysgrifennu at y llysgennad ar ran Qatar i'r DU yn condemnio'r sylwadau homoffobig a wnaed gan lysgennad cwpan y byd ar ran Qatar. Mae gweinidogion yn parhau i gyfarfod â rhanddeiliaid, gan gynnwys y TUC rhyngwladol a grŵp cefnogwyr y Wal Enfys, i ymgysylltu ar y materion critigol hyn. Rydym ni’n cydnabod arwyddocâd y materion hyn ac y bydd rhai cefnogwyr yn dewis peidio â theithio o ganlyniad i hynny. Nid yw ein penderfyniadau mewn unrhyw ffordd yn ceisio lleihau'r anghyfiawnderau dan sylw, a byddwn ni’n gweithio i sicrhau bod ein presenoldeb yn gadael effaith gadarnhaol.

Gan y disgwylir cynulleidfaoedd enfawr ar gyfer gemau yn erbyn UDA a Lloegr, mae gennym ni gyfle i gyflwyno’r gwerthoedd yr ydym ni fel Llywodraeth wedi bod yn gyson arnyn nhw. Rydym ni’n cefnogi ymrwymiad y tîm i wisgo band braich enfys 'One Love' ac yn canmol penderfyniad y rhai yng ngwersyll Cymru i godi eu llais ar y materion hyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym ni’n falch o'r safiad a gymerwyd gan y tîm. Mae Cymru'n ffodus o gael ei chynrychioli gan y grŵp arbennig yma o chwaraewyr o dan arweinyddiaeth Rob Page. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, chwaraewyr a chefnogwyr yn edrych yn briodol at Lywodraeth Cymru am gyngor, cefnogaeth ac arweinyddiaeth ar y materion hyn. Rydym ni’n cydweithio'n agos â nhw i helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno presenoldeb Cymreig unigryw a blaengar yn y twrnamaint.

Wrth i ni wynebu ein cymdogion a'n cystadleuwyr ym maes chwaraeon, Lloegr, yn y grŵp, mae gennym ni gyfle prin hefyd o flaen cynulleidfa wirioneddol fyd-eang i ddangos yn glir bod Cymru yn genedl ar wahân o fewn y DU. Yn gynharach heddiw, ymunodd aelodau'r grŵp o Gaerdydd, Hoops and Loops, gyda mi wrth fynychu'r sesiwn hyfforddi olaf cyn cwpan y byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Grŵp cymorth ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+ yw hwn i bobl sydd wedi dod i Gymru i ddianc rhag trais domestig, erledigaeth a hyd yn oed y bygythiad o farwolaeth. Mae statws Cymru fel cenedl o noddfa yn bwysig. Mae'n rhan greiddiol o'r gwerthoedd rydyn ni'n dewis sefyll drostyn nhw. Rwy'n falch iawn bod y rhai sy'n adeiladu bywyd newydd yma wedi gallu ymuno â ni wrth i ni nodi'r foment fawr hon yn hanes chwaraeon Cymru.

Mae'n hanfodol bod y gêm fyd-eang yn dysgu gwersi o'r twrnamaint yma ac yn gwneud hynny ar frys. Gyda chynulleidfa o 5 biliwn o bobl, rydyn ni'n gwybod mai ychydig iawn fydd y rheiny sy’n gwylio cwpan y byd yn ei wybod am Gymru, os unrhyw beth. Wrth i ni gyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd, byddwn ni'n hyrwyddo cenedl agored, flaengar ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddathlu ein gwerthoedd. Mae ein rhaglen weithgareddau bellach yn wirioneddol yn mynd rhagddi. O Neuadd Les Tylorstown yn y Rhondda Fach, datgelodd Robert Page ei garfan o 26 chwaraewr yng Nghwpan y Byd i gael ei harwain gan ein talismon a'n capten, Gareth Bale. Does dim amheuaeth y byddan nhw'n rhoi popeth i'r crys ac i genedlaethau o gefnogwyr oedd yn meddwl efallai na fyddai’r dyddiau hyn byth yn dod eto.

Rwy'n falch o gadarnhau pedwar ychwanegiad newydd i Tîm Cymru 22, gyda'n grŵp newydd o lysgenhadon Cymru. Mae'r llysgenhadon, dan faner Lleisiau Cymru, yn cynnwys cymysgedd amrywiol o'n lleisiau a fydd yn hyrwyddo goreuon Cymru i'r byd. Rydym ni’n hynod ffodus o fod wedi recriwtio seren Olympaidd, y pencampwr byd a'r deiliad record byd Colin Jackson, cyn-gapten Cymru yr Athro Laura McAllister, y DJ a'r cyflwynydd Katie Owen, a'r cogydd enwog Bryn Williams. Fel rhan o'r dull Tîm Cymru 22 ehangach, bydd llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Jess Fishlock ac Ian Rush, mawrion pêl-droed Cymru, hefyd yn cefnogi gweithgareddau ein rhaglenni.

Rydw i wedi diweddaru Aelodau ar y gronfa cymorth partner yn y gorffennol, gan gadarnhau'r 19 prosiect llwyddiannus. Mae'r gwaith yn cefnogi Gŵyl Cymru, amrywiaeth o dros 200 o ddigwyddiadau sy'n dathlu'r celfyddydau a chwaraeon. Mae S4C wedi trefnu cyngerdd i fynd â Chymru i'r byd yn Efrog Newydd, a gafodd ei gynnal neithiwr ac a fydd yn cael ei ddarlledu y penwythnos hwn. Mae'r Urdd wedi darparu eu jamborî canu mwyaf erioed ar draws ysgolion, gan gynnwys mwy na 230,000 o blant, ac mae StreetGames Wales wedi estyn allan i'n cymunedau lleiaf cefnog, gan gynnig safleoedd chwaraeon ar garreg y drws ar draws 36 o gymunedau yng Nghymru. Dim ond cipolwg ar y gweithgarwch sydd eisoes ar y gweill yw hwn.

Rydym ni hefyd yn gweithredu ein hymgyrch farchnata well, sy'n canolbwyntio ar farchnadoedd targed gan gynnwys UDA, cynulleidfaoedd Ewropeaidd allweddol a'r DU ar draws brand, busnes a thwristiaeth, yn ogystal ag ymgyrch gref yng Nghymru. Bydd ein gweithgareddau'n cynnwys llinyn marchnata digidol craidd sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth, yn ogystal â marchnadoedd masnach a buddsoddi. Rydym ni’n cyflwyno gweithgareddau ledled y byd, gan weithio gyda Tîm Cymru 22 a thrwy ein swyddfeydd tramor. Byddwn ni'n lansio gosodiad celf sy'n benodol i Gymru yn y Corniche yn Doha i hyrwyddo Cymru yn y twrnamaint. Bydd cynnwys Cymreig ym mhafiliwn a gŵyl gardd fawr y DU, a derbyniad ar thema Cymru ar 21 Tachwedd dan ofal llysgennad Prydain i Qatar gyda'r Prif Weinidog yn brif westai. Yn yr Unol Daleithiau, rydym ni’n cefnogi digwyddiad Pêl-droed yn y Cylch yn Washington, digwyddiad rhanddeiliaid diwylliannol yn Efrog Newydd, digwyddiad e-hapchwarae yn Atlanta, a digwyddiadau busnes yn Chicago a Los Angeles.

Er mwyn cefnogi ein hamcan i hyrwyddo Cymru flaengar, bydd y Prif Weinidog yn mynychu gêm grŵp gyntaf Cymru ers 64 mlynedd yn erbyn yr UDA, a byddaf i’n mynychu gêm Lloegr. Mae'r rhain yn cynrychioli'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i ni godi proffil Cymru, a gwneud cysylltiadau lle gallwn ni rannu ein diddordebau a'n gwerthoedd. Ni fydd Gweinidogion Cymru yn bresennol yng ngêm Iran ac fe fyddan nhw'n cefnogi Cymru o adref. Er mwyn sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn Qatar, rydym ni wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a gydag ystod o asiantaethau'r Llywodraeth, yn ogystal â heddluoedd y DU. Mae sianeli cyswllt rheolaidd wedi parhau i gael y newyddion diweddaraf am faterion diogelwch gyda goruchaf bwyllgor Qatar, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli'r digwyddiad yn y wlad. Rydym ni hefyd wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â llysgenhadaeth y DU yn Qatar a llysgennad Ei Fawrhydi yn swyddfa Qatar.

I wneud yn siŵr ein bod ni’n sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol, byddwn yn gwerthuso'r gweithgareddau hyn wrth gefnogi cwpan y byd i ddysgu gwersi o'r ymyriadau hyn ar gyfer cyfleoedd diplomyddiaeth mewn chwaraeon yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'n blaenoriaethau buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yma yng Nghymru, gyda chyllideb gyfalaf o £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgolion. Dirprwy Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn diystyru difrifoldeb y materion mae'r twrnamaint hwn wedi'u codi i'n dinasyddion, ein cyrff chwaraeon a'n Llywodraethau ym mhob man. Rwy'n falch bod ein cynlluniau yn atgyfnerthu'r gwerthoedd sy'n gwneud Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau i Robert Page a'r tîm yn y cwpan y byd hwn—pob lwc, Cymru.