6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:25, 15 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Dros yr 20 mlynedd nesaf bydd Cymru'n wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, lefelau'r môr yn codi, a thywydd eithafol amlach a dwys. Bydd yr angen i gyflawni datgarboneiddio, cydnerthedd o ran yr hinsawdd, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella ansawdd ein dŵr yn gofyn am atebion arloesol, newid ymddygiad, a buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith dŵr.

Mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu. Mae angen dull Cymru gyflawn o gyflawni'n gyflym ac yn sylweddol i wireddu ein huchelgeisiau o ran natur a'r hinsawdd, a rhaid i bob un ohonom ni ddeall ein swyddogaeth o ran cyflawni hynny. Mae dyfroedd ffyniannus yn hanfodol i gefnogi cymunedau iach, busnesau ffynianus a bioamrywiaeth. Er mwyn galluogi hyn, mae angen i ni leihau'r pwysau ar ein dyfroedd, er enghraifft, llygredd maethynnau. Ar hyn o bryd mae dros 60 y cant o'n hafonydd mwyaf gwerthfawr yn methu targedau ffosffad. Er bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fywyd gwyllt a chynefin, mae hyn hefyd yn cyfyngu ar ein gallu i adeiladu'r cartrefi carbon isel sydd eu hangen ar ein cymunedau ar y cyflymder sydd ei angen.

Ym mis Gorffennaf y llynedd aeth y Prif Weinidog ati i gynnull uwchgynhadledd lle'r oedd sefydliadau'n addo gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws. Ers hynny, sefydlwyd byrddau rheoli maethynnau, yr ydym ni wedi bod yn darparu cymorth ariannol o hyd at £415,000 ar eu cyfer. Mae cronfa ddata o fesurau lliniaru wedi'i chynhyrchu ac ar hyn o bryd mae'n cael ei hystyried gan aelodau o'r grŵp goruchwylio afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datblygu cyfrifiannell maethynnau. Byddwn yn gweithio gyda sir Gaerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol eraill i ddatblygu cyfrifiannell maethynnau genedlaethol y gellir ei haddasu i'w defnyddio ar hyd a lled Cymru. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried dichonolrwydd mesurau tymor byr a bydd yn adrodd yn ôl yng ngwanwyn 2023. Mae cynnig caniatâd dalgylchol wedi cael ei ddatblygu ac yn cael ei ystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae prosiect model marchnad dalgylch wedi'i sefydlu ac ar waith ar ffurf cynllun arbrofol ym Mrynbuga. Ac rydym ni wedi nodi atebion priodol, seiliedig ar natur, a byddwn yn dechrau archwilio eu haddasrwydd mewn dalgylchoedd penodol.

Cynhelir uwchgynhadledd ddilynol ym mis Chwefror i ganolbwyntio ar gynnydd, a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu i leihau crynodiadau maethynnau a datblygu cyfres o fesurau i alluogi datblygu cynaliadwy i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â rhaglen o weithiau cyfalaf gwerth miliynau o bunnoedd, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau niferus sy'n wynebu afonydd Cymru, gan gynnwys effeithiau ar ansawdd dŵr. Daw'r pwysau allweddol ar ddyfroedd o addasiadau diriaethol neu newidiadau o waith dyn i'r cynefin naturiol; llygredd o garthion a dŵr gwastraff; llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth; llygredd o ardaloedd gwledig; a llygredd o fwyngloddiau. Mae'r rhaglen gyfalaf yn cynnwys prosiectau i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn stociau eogiaid a sewin, adfer cynefin afonydd nodweddiadol er buddion lluosog, gan gynnwys ansawdd dŵr, ynghyd â chyfrannu at lesiant pobl.

Rwy'n awyddus iawn i sicrhau'r buddsoddiad a'r arian mwyaf posibl, a byddwn yn annog sefydliadau i gydweithio. Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein datganiad blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat, sy'n darparu'r fframwaith i gwmnïau dŵr gefnogi ein hamcanion strategol. Gan ganolbwyntio ar yr argyfyngau hinsawdd a natur, gwelliannau amgylcheddol, cydnerthedd, iechyd asedau a chwsmeriaid a chymunedau, mae'n hanfodol bod buddsoddiad cwmni dŵr yn chwarae rhan i leihau llygredd.

Nid oes un mesur a fydd yn datrys yr argyfwng hwn ac nid oes ateb cyflym. Er enghraifft, mae mynd i'r afael â gorlifiadau storm yn un o'r nifer o elfennau y mae angen mynd i'r afael â nhw os ydym ni am wella ansawdd afonydd yng Nghymru. Mae'r cwmnïau dŵr wedi bod yn gweithio dros sawl blwyddyn i wella asedau sy'n perfformio'n wael. Mae hyn yn cynnwys gwella'r monitro er mwyn adnabod lle mae angen cymryd camau pellach a blaenoriaethu camau i fynd i'r afael â niwed ac effaith amgylcheddol.

Bydd angen buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau dros y blynyddoedd nesaf i wireddu ein huchelgeisiau, ac rwy'n awyddus i sicrhau bod pob ceiniog o fuddsoddiad yn darparu ar gyfer cwsmeriaid, cymunedau a'r amgylchedd wrth osgoi creu neu waethygu anghydraddoldeb. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ni ein rhan i'w chwarae. Mae taflu dim ond un cadach gwlyb i lawr y tŷ bach yn ddigon i ddechrau rhwystr ac yn peryglu achosi llifogydd trychinebus mewn cartrefi, gan arwain at ofid a chost sylweddol. Bob tro rydym ni'n palmantu dros ddreif neu ardd, rydym ni'n ychwanegu at y pwysau ar ein rhwydweithiau draenio.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i wella ansawdd dŵr, a gellir gwneud hynny dim ond os yw pawb yn ymdrechu a Chymru gyfan yn mynd ati, lle mae'r Llywodraeth, rheoleiddwyr a'r holl sectorau perthnasol yn gweithio gyda'i gilydd nawr a dros y tymor canolradd a chanolig i gyflawni canlyniadau tymor hir i wella ansawdd dŵr.

Mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sy'n gysylltiedig â dŵr fel nofio dŵr agored wedi cynyddu'n aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yng Nghymru, mae nifer y dyfroedd ymdrochi dynodedig hefyd wedi cynyddu, ond rwy'n awyddus i gael barn pobl am beth arall y gallwn ni ei wneud i annog hyn drwy arolwg nofwyr dŵr mewndirol ac arolwg tirfeddiannwr dŵr mewndirol yn gynnar yn 2023. Rydym wedi nodi pum lleoliad o ddŵr mewndirol yr hoffem eu defnyddio i arbrofi gyda ffordd newydd o drin dyfroedd ymdrochi y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith hwn wrth i ni symud tuag at ddynodi dyfroedd mewndirol.

Ym mis Mai eleni fe wnaethom ni gomisiynu adroddiad annibynnol i gynnal adolygiad ôl-weithredu o'r drefn systemau draenio cynaliadwy yng Nghymru. Rwy'n disgwyl yr adroddiad hwn yng ngwanwyn 2023 a byddaf yn defnyddio hyn i nodi dewisiadau polisi i sicrhau bod cynlluniau systemau draenio cynaliadwy nid yn unig yn cyflawni eu swyddogaeth o arafu llif dŵr wyneb, ond hefyd yn darparu cynefinoedd bywyd gwyllt. Bydd cynyddu systemau draenio cynaliadwy ledled Cymru yn arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer bywyd gwyllt, gan gyfrannu at ein targedau bioamrywiaeth.

Rydym ni'n buddsoddi £3.1 miliwn yn ein—. Mae'n ddrwg gennyf, fe roddaf fy nannedd yn ôl i mewn. Rydym yn buddsoddi £3.1 miliwn yn ein rhaglen arbrofi rheoli llifogydd naturiol tair blynedd, a gynlluniwyd i'n helpu i ddeall sut mae rheoli llifogydd naturiol yn gweithio a sut orau y gallwn ni gyflawni'r mathau hyn o gynlluniau. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 15 prosiect ar draws Cymru, y disgwylir iddyn nhw leihau'r risg o lifogydd i 800 eiddo ar ôl eu cwblhau. Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau hyn hefyd yn gwella ansawdd dŵr.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i adfer cynefinoedd morol yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod amgylchedd morol Cymru yn parhau i fod yn gydnerth i genedlaethau'r dyfodol. Rwy'n cefnogi prosiectau adfer cynefinoedd hanfodol, fel prosiect morwellt Cymru, ac yn croesawu'r trafod parhaus â Llywodraeth Cymru, sy'n hanfodol i blethu i'r gwaith o gyflawni ein hymrwymiad fel llywodraeth.

Rwyf wedi bod yn glir iawn bod angen i ni ystyried dalgylchoedd yn eu cyfanrwydd, gan ganolbwyntio ar gydweithrediad aml-swyddogaethol ac atebion sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd dŵr. Trwy fynd ati fel hyn a gwella ymgysylltu â'r gymuned, byddwn yn gallu rhoi ystyriaeth well i amgylchiadau a blaenoriaethau lleol. Gall dinasyddion a grwpiau lleol fod â rhan allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â llygredd ansawdd dŵr drwy ddarparu gwybodaeth fonitro ac ymwybyddiaeth gyhoeddus.

Rwy'n awyddus i weithio gyda gwyddonwyr lleyg i ddeall sut y gall eu gwaith gefnogi a llywio gwell dealltwriaeth o'r ystod o effeithiau ar ein dyfroedd. Rhaid i bob plaid weithio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid i Gymru gyfan fynd ati i ymdrin â'r risgiau lluosog sy'n effeithio ar ein llynnoedd, afonydd a'n nentydd a sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ansawdd ein dyfrffyrdd. Rwy'n annog pob sector a sefydliad i weithio gyda'n gilydd, i fod yn dryloyw, yn agored ac yn hyblyg, sef yr ymateb sydd ei angen arnom ni i fynd i'r afael o ddifrif â'r materion ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu ledled Cymru. Diolch.