Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Mae'r cyrsiau newydd hyn wedi bod o fudd i dros 27,000 o bobl ers eu cyflwyno yn 2017, ac rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn i ddatblygu'r ddarpariaeth. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn dyrannu £52 miliwn arall yn y rhaglen i helpu pobl gyflogedig i uwchsgilio ac ailsgilio i feysydd blaenoriaeth. Y llynedd, darparais bron i £6 miliwn i wella capasiti digidol ac i fynd i'r afael â heriau sero net mewn darparwyr a cholegau dysgu oedolion. A diolch i'n diwygiadau blaengar ac unigryw i gyllid myfyrwyr addysg uwch, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn addysg uwch rhan-amser, ac yn arbennig cynnydd sylweddol mewn myfyrwyr—gan gynnwys llawer o gefndiroedd difreintiedig—yn astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Gan adeiladu ar y llwyddiannau hyn, rydym bellach yn dechrau ar y diwygiadau mwyaf arwyddocaol i addysg drydyddol ers datganoli, ac mae adnewyddu ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes wrth wraidd y diwygiadau hyn. Dyna pam mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a dderbyniodd gefnogaeth unfrydol yng Nghyfnod 4 y Senedd hon, yn dechrau gyda dyletswydd strategol i'r comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil i hyrwyddo dysgu gydol oes. Ar ben hynny, mae'r Ddeddf yn creu dyletswydd newydd ar y comisiwn i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i oedolion, ac mae'r manylion llawn i'w nodi mewn deddfwriaeth eilaidd, y byddwn yn ei chyflwyno ar gyfer ymgynghori yn 2023.
Wrth i ni symud at sefydlu'r comisiwn newydd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda grŵp cyfeirio allanol dysgu oedolion yr wyf wedi gofyn iddyn nhw gyd-ddylunio rhaglen o gydlynu cenedlaethol i ailfywiogi'r gwaith o ddarparu addysg i oedolion yng Nghymru, ac rwyf wedi dyrannu £2 miliwn dros y flwyddyn ariannol bresennol a'r nesaf i gefnogi'r gwaith hwn.
Gan adeiladu ar ein diwygiadau i'r cwricwlwm ysgol, rydym yn gweithredu cwricwlwm dinasyddion ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi oedolion drwy addysg i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, i fod yn ddinasyddion sy'n ymgysylltu ac i fwynhau canlyniadau iechyd a chyflogaeth gwell.
Rwy'n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, Addysg Oedolion Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro, Oasis Caerdydd a'r Brifysgol Agored, a fydd yn cyflwyno pum cynllun treialu cwricwlwm newydd i ddinasyddion, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cyfranogiad dysgwyr oedolion ehangach.
Bydd y cynlluniau treialu hyn, a fydd yn dechrau'r mis hwn, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o ddysgu oedolion: ar iechyd a lles, ar ddysgu byd-eang, ar addysg iaith, ar sut y gall ysgolion a chymdeithasau tai gefnogi dysgu yn y gymuned, a sut rydym yn datblygu mwy o gydlyniad cymunedol a dinasyddiaeth. Yn ogystal â hyn, rydym yn comisiynu arolwg 'cyflwr y genedl' o lythrennedd a rhifedd oedolion, er mwyn deall lle mae diffyg y sgiliau craidd hyn yn rhwystr i waith a lles. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith dysgu proffesiynol i staff ar draws pob rhan o'r sector ôl-16, ac mae ein cronfa dysgu proffesiynol yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i ddatblygiad proffesiynol y gweithlu ar draws y sector ôl-16, ac rydym yn gweithio i wella nifer y llwybrau digidol i ddysgu oedolion sydd ar gael.
Ar ôl cefnogi ehangu mynediad i gyfrwng OpenLearn y Brifysgol Agored, rwyf eisiau archwilio ymhellach y potensial ar gyfer digidol i ehangu mynediad at ddysgu oedolion, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan a'r rhai hynny sy'n ceisio cymryd y camau cyntaf hanfodol hynny yn ôl i ddysgu. Mae fy swyddogion yn comisiynu ymarfer mapio fel cam cyntaf tuag at ddatblygu gwybodaeth llawer cliriach, llawer mwy cydgysylltiedig i ddysgwyr ar hyn o bryd a dysgwyr posibl i gael mynediad at gyrsiau ar-lein.
Dirprwy Lywydd, gyda'i gilydd, rwy'n credu bod hyn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i wneud Cymru'n genedl o ail gyfle. Bydd gwireddu'r weledigaeth hon yn llawn yn cymryd amser, a byddwn yn parhau i wynebu heriau, yn enwedig yn y cyd-destun cyllidol presennol. Ond rwy'n ffyddiog ein bod ar y llwybr i wneud Cymru'n genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Diolch yn fawr.