Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu y gwnes i ateb y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y datganiad y gwnes i ei ddatgan ar y cychwyn cyntaf. Ond, jest i gydnabod bod yr heriau y mae hi’n sôn amdanyn nhw yn rhai real, ac mae angen sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r gyllideb sydd gennym ni yn y ffordd fwyaf blaengar y gallwn ni. Dyna pam mae’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu drwy'r PLA, y gwnaeth hi ei chydnabod yn ei chwestiwn, a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu o ran addysg rhan amser, llawn amser, ac addysg uwch hefyd, mor bwysig.
O fewn y gyllideb sydd ar gael i golegau addysg bellach, mae’r gyllideb a ddyrannwyd y llynedd yn cynnwys y cynnydd mwyaf yn y gyllideb sydd wedi bod mewn sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn ymrwymedig i ehangu cyfleoedd i bobl ôl-16. Mae hynny yn cynnwys hefyd elfennau o arian yn y colegau—y rheini sydd ar gael—i ddiwallu anghenion brys ac argyfyngus unigolion lle mae pwysau costau yn bygwth bod yn rhwystr iddyn nhw o ran cael mynediad at gyrsiau. Mae cronfeydd penodol gan golegau sydd yn cael eu hariannu ar gyfer y pwrpas hwnnw.
Un o’r cwestiynau y gwnaeth hi ei ofyn sydd yn bwysig iawn yw: sut rŷm ni’n gallu sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y rheini sydd angen cael mynediad fwyaf at addysg bellach? Mae’r ystadegau yn dangos, yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol, mai dyna’r her fwyaf, os hoffwch chi. Y bobl sydd yn fwyaf tebygol o fanteisio ar addysg fel oedolion yw’r rheini sydd efallai wedi cael y mwyaf o addysg ar hyd eu llwybr hyd hynny. Felly, dyna un o’r heriau, un o'r sialensiau mwyaf dyrys.
Rwy’n credu bod hyn yn rhan o’r strategaeth yn gyffredinol. Mae’r gwaith y mae’r external reference group yn ei wneud gyda ni yn ein helpu ni i ddeall sut i allu cyrraedd pobl, sut i allu sicrhau nad oes dyblygu, a bod y ffordd rŷm ni’n cyfathrebu â phobl yn sicrhau bod cyrsiau yn hygyrch i bobl, a’n bod ni hefyd yn cynnig llwybrau i bobl allu ailgydio gyda dysgu sydd yn amrywiol, sydd yn adlewyrchu amryw lefelau o hyder, os hoffwch chi, ac i’r rheini sydd efallai ymhellach o’r system addysg.
Felly, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un ymyriad yn y maes hwn yn mynd i ateb y galw. Ond rwy’n gobeithio bod y darlun dwi wedi bod yn ei ddisgrifio—ystod eang o ymyriadau ar y cyd—yn mynd i allu cyrraedd y rheini sydd angen y gefnogaeth fwyaf.