Part of QNR – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2022.
Mae rhyddhau gorlif adeg stormydd yn digwydd pan fydd y system ddraenio dan straen, a hynny fel arfer pan mae’r llif yn ei anterth, i ddiogelu eiddo rhag llifogydd. Mae cynnydd yn y boblogaeth, datblygu tir, cynnydd mewn arwynebau sydd ddim yn gadael i ddŵr lifo drwodd, a glawiad mwy dwys wedi cynyddu’r pwysau ar ein seilwaith draenio.