Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad agos—mor agos ag y gallaf—efo busnesau, fel y gymuned i gyd wrth gwrs, ers y penderfyniad i gau y bont. Maen nhw i gyd eisiau sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i ailagor y bont cyn gynted â phosib. Mi groesawaf unrhyw newyddion gan y Gweinidog ar hynny a'r gwaith i ailagor yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Ond, o ran yr effaith ar fusnes, mae busnesau'n gyson iawn yn beth maen nhw'n dweud wrthyf i, yn sôn am fasnach i lawr rhyw 40 y cant—mwy yn rhai achosion. Dydy pobl ddim yn mynd i siopa neu am baned yn y ffordd yr oedden nhw. Gaf i yn gyntaf ofyn am gefnogaeth ariannol iddyn nhw? Mae angen meddwl sut i'w helpu nhw i'w cael nhw drwy y cyfnod yma a'r pwysau, sydd ddim wrth gwrs o'u gwneuthuriad nhw. Ond, wrth gwrs, does dim rheswm chwaith i bobl gadw draw. Gymaint â mae hyn yn achosi cur pen ar rai adegau o'r dydd, a gymaint mae angen trydedd bont er mwyn sicrhau gwytnwch y croesiad yn yr hir dymor, mae pobl yn gallu teithio i Borth ac i Fiwmares ac ati fel y lician nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog (1) wneud yn siŵr nad oes yna arwydd 'Menai Bridge Closed' yn unrhyw le, ac mae 'Pont ar Gau' neu 'Suspension Bridge Closed' ydy'r arwyddion? Ac a wnaiff o edrych ar gychwyn ymgyrch farchnata, yn bosib trwy Visit Wales neu gyrff eraill, i hyrwyddo pobl i deithio i Ynys Môn, i Borth, Biwmares ac ati, ar gyfer hamdden a siopa fel arfer?