Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Senedd na fyddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud y daith 2,500 milltir i Sharm el-Sheikh ar gyfer cynhadledd COP27 mewn ymdrech i gyfyngu eu milltiroedd awyr. A wnewch chi gadarnhau faint o filltiroedd awyr a deithiwyd gennych ar eich taith ddiweddar i Seland Newydd?