Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Lansiwyd ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer manwerthu ym mis Mehefin, ac roedd yn nodi dechrau sgwrs ehangach a dyfnach gyda'r sector. Mae fforwm manwerthu Cymru, sy'n cynnwys partneriaid o fyd busnes ac undebau llafur—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod ac eraill wedi cael cyfle i weld un o'r partneriaid hynny, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, yn lansiad eu hymgyrch Rhyddid rhag Ofn—wedi bod yn cydweithio ar gynllun cyflawni o gamau blaenoriaeth ar gyfer y sector. Mae'r cynllun yn agosáu at ei gamau olaf ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau wrth gwrs.