Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Fel Jack Sargeant, rwy'n croesawu'r datblygiadau hyn yn y gogledd-ddwyrain yn fawr iawn, ac rwy'n teimlo'n gryf y dylem wneud llawer mwy yng Nghymru i geisio denu cymaint o gyfleoedd caffael â phosibl ar gyfer y sector amddiffyn i’n cenedl. Pa gamau rydych yn eu cymryd, ar y cyd â Llywodraeth y DU, i geisio sicrhau bod busnesau Cymru'n cael cyfran well o’r gwariant ar amddiffyn a chaffael sy'n digwydd ar lefel Llywodraeth y DU ar hyn o bryd?