Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:48, 16 Tachwedd 2022

Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r argyfwng chwyddiant presennol hwn nid yn unig yn effeithio ar unigolion a chartrefi ar ffurf yr argyfwng costau byw, ond hefyd wrth gwrs ar lawer o fusnesau, yn enwedig y rhai yn y sector diwylliant, sy'n wynebu argyfwng costau busnes. Er enghraifft, rhybuddiodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr ŵyl wedi gwynebu heriau o ganlyniad i Brexit eleni gan wneud mewnforio nwyddau yn fwy cymhleth a chostus, yn ogystal â phwysau chwyddiant cynyddol. Yn yr un modd, mae Cadeirydd S4C, Rhodri Williams, wedi rhybuddio bod chwyddiant cynyddol yn taro cyllideb y sianel ac y bydd hyn yn anochel yn cael effaith andwyol ar faint o gynnwys y gallant ei gomisiynu gan gyflenwyr. O ystyried hyn, pa drafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â diogelu dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol yn wyneb costau cynyddol o ganlyniad i Brexit a chwyddiant? Ac yn yr un modd, wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal i warchod y sector cynhyrchu teledu, yn enwedig rhaglenni Cymraeg, yma yng Nghymru?