Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd. Rydym yn llwyr sylweddoli manteision economaidd prosiectau ynni môr arfaethedig yng ngogledd Cymru; mae hyn yn arwyddocaol i Gymru gyfan. Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau ein bod yn ceisio gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn i Gymru, gan gynnwys cyfleoedd yn y môr Celtaidd.