Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch am y cwestiwn. Yn sicr rwy'n cydnabod yr heriau sylweddol sy'n bodoli o fewn y sector. Yn ddiweddar, roeddwn gyda'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn y digwyddiad ymgynghori ar y cynllun manwl. Unwaith eto, mae'r undeb llafur blaenllaw, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ynghyd â chydweithwyr eraill a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, y byddwch chi'n gyfarwydd â hwy—eich cyn ddirprwy arweinydd, Sara Jones—yn cynrychioli'r sector ac yn dod â'r sector at ei gilydd.
Maent yn codi amryw o faterion. Maent yn sicr yn chwilio am sefydlogrwydd a sicrwydd gan y Llywodraeth, ac maent yn ei gael, oherwydd rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â hwy i ddatblygu'r weledigaeth, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy i gyflwyno cynllun. Byddwn yn ei gyhoeddi wedyn, ac mae'n ddigon posibl y byddwn yn ymrwymo i wneud pethau o ganlyniad i hynny. Dyna'r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Rwy'n cydnabod yr her ynghylch cadw a recriwtio pobl. Mewn gwirionedd rydym wedi bod yn bositif iawn am fod eisiau pobl ac annog pobl i ddilyn gyrfa yn y sector. Ac mewn gwirionedd, dylai'r weledigaeth a'r cynllun cyflawni helpu i adeiladu ar hynny. Mae hyn yn ymwneud â mwy na chyflogaeth dymhorol yn unig. Mae gyrfa go iawn i'w chael yn y sectorau hyn hefyd. Felly, nid yw'r ymgynghoriad ar y cynllun cyflawni wedi dod i ben. Byddwn yn sicr yn ystyried y safbwyntiau rydym wedi'u clywed yn ddiweddar.
Codwyd y pwynt ynglŷn â chyfraddau yno hefyd, ond byddwn yn atgoffa'r Aelod yn garedig, o ystyried nad yw yfory wedi bod eto, nad yw'r amlen ariannol y mae'n rhaid i ni weithredu ynddi yn glir i ni eto. Mae ein hymrwymiad ar ardrethi busnes yn para hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ond mae angen inni ddeall beth a ddaw yfory; a fydd yn cynyddu ein gallu i wneud mwy, neu a fydd yn gwneud yr her yn anos fyth, fel y bydd yn gwybod mewn ffordd ymarferol iawn o'i gyfnod yn arwain awdurdod lleol a gorfod gwneud y dewisiadau anodd neu ymarferol hyn.