Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Weinidog, gall economi'r nos fod yn gyflogaeth fregus weithiau, ond mae'n hanfodol i'n diwylliant, ein cymunedau a'r economi. Mae'r gweithwyr hyn wedi wynebu'r gwaethaf o gyfyngiadau symud y pandemig, felly mae'n hanfodol eu bod yn cael cefnogaeth i gael eu cefnau atynt. Pa asesiad, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith y pwysau costau byw ar economi'r nos yng Nghymru?