Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Rydym wedi clywed safbwyntiau cryf gan Aelodau heddiw ar yr heriau a wynebir gan weithwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Fel y mae’r Gweinidog wedi dweud, yn gwbl briodol, mae mwy wedi digwydd ers inni gyhoeddi ein hadroddiad ym mis Gorffennaf nag y gallem fod wedi’i ddychmygu erioed, ond mae pob un ohonom yn cytuno ein bod eisiau cefnogi ein hetholwyr drwy’r cyfnod anodd hwn.
Nawr, mae Aelodau wedi sôn am y diffyg sylfaen dystiolaeth ar sut mae pwysau costau byw'n effeithio ar wahanol gymunedau ledled Cymru, a'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod data rheolaidd ar lefel Cymru gyfan ar gael. Mae'n rhaid inni gael darlun cywirach o effaith costau byw ar aelwydydd, fel y gallwn ddeall effaith pwysau costau byw ar wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol yn well.
Wrth gwrs, mae Aelodau wedi tynnu sylw’n huawdl at effaith y costau byw cynyddol ar aelwydydd. Gwyddom fod pobl yn gorfod tynhau eu gwregysau a gwneud dewisiadau anodd, a dyna pam fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galed i sicrhau bod y rheini sy’n ei chael hi'n anodd yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. Mae Aelodau hefyd wedi cyfeirio at y pwysau ar y gweithlu, a gwyddom fod sectorau economaidd penodol dan fwy o bwysau nag eraill, gyda risg uwch o bwysau costau byw ar gyflogwyr yn cael eu trosglwyddo i weithwyr. Ac mae’r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, a Sioned Williams, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, wedi ein hatgoffa bod llawer o bobl a theuluoedd eisoes yn wynebu heriau enfawr o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am dynnu sylw at y ddyled y mae rhai eisoes yn ei hwynebu wrth geisio talu eu biliau dydd i ddydd.
Nawr, roedd y Gweinidog yn llygad ei le wrth ddweud bod effaith costau ynni ar fusnesau, ac yn wir, ar wasanaethau cyhoeddus, yr un mor syfrdanol â chanlyniadau costau ynni i ddefnyddwyr. Fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, mae’r pwyllgor yn croesawu ymdrechion i sicrhau bod mwy o weithwyr Cymru yn cael y cyflog byw gwirioneddol ac i gefnogi gweithwyr a sectorau economaidd sy’n arbennig o agored i effaith costau byw cynyddol, a hoffwn roi sicrwydd i’r Aelodau y byddwn yn parhau i graffu ymhellach ar y maes hwn.
Credaf ein bod wedi cyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol i lenwi'r hyn a nodwyd gennym fel bylchau yn y cymorth. Gwyddom fod y pwysau wedi cynyddu, ac mae'n rhaid inni weld beth a ddaw yn sgil datganiad yr hydref yfory. Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau bod gan y pwyllgor hwn gynlluniau eisoes ar gyfer craffu yn y maes hwn yn y dyfodol. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn cynnal ymchwiliad undydd o’r enw ‘Costau Byw 2’, lle byddwn yn gwrando ar gynrychiolwyr busnesau Cymru yn nodi'r hyn sydd wedi newid iddynt ers mis Gorffennaf a sut maent yn ymdopi â chostau cynyddol gwneud busnes. A hefyd, yn bwysig iawn, byddwn yn edrych ar effaith pwysau costau byw ar sgiliau a hyfforddiant mewn gwaith i'r rheini sy'n ceisio mynd i mewn i'r farchnad swyddi neu ailsgilio. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys edrych ar gynlluniau cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, yn enwedig y warant i bobl ifanc a sut mae pwysau costau byw'n cael effaith ar yr ymdrechion hynny i adfer.
Rydym hefyd yn bwriadu gwneud gwaith ar gost gynyddol gwneud busnes. Mae aelodau fel Luke Fletcher, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, hefyd wedi nodi effaith y pwysau hwn ar fusnesau, gyda llawer ohonynt heb adfer yn llwyr eto wedi’r pandemig. Ac am y rheswm hwnnw, mae'n bwysicach fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i helpu ein busnesau drwy ryddhad ardrethi busnes, cymorth grant a thrwy sefydlu rhaglen gyllido cymorth brys, gan ddefnyddio mecanweithiau tebyg i'r rhaglenni cymorth COVID, i helpu'r busnesau yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol drwy adegau gwaethaf y pwysau costau byw.
Nawr, mae Aelodau fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hefyd wedi nodi’r premiwm gwledig, a gwyddom fod costau byw cynyddol i'w teimlo’n fwy difrifol gan y rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig, o ran cael mynediad at wasanaethau ac mewn perthynas â chostau ynni, a dyna pam ein bod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau i gefnogi aelwydydd nad ydynt ar y grid drwy’r gaeaf hwn yn gadarn, ac rydym hefyd wedi galw am wneud mwy o ymchwil ar y premiwm gwledig a’r effaith y mae costau byw'n ei chael ar ein cymunedau gwledig.
Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i archwilio'r materion hyn, o ystyried eu bod mor bwysig i economi Cymru. Byddwn hefyd yn croesawu Gweinidog yr Economi i gyfarfod â ni ar 7 Rhagfyr, lle rwy’n siŵr y bydd pwysau costau byw ar yr agenda. Ac felly, i gloi, a gaf fi ddiolch i'r rheini a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Edrychwn ymlaen at gael diweddariadau pellach gan Lywodraeth Cymru ar eu gwaith yn y maes hwn ac mewn perthynas â rhoi argymhellion ein hadroddiad ar waith. Diolch yn fawr.