Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae'n rhaid i fi ddweud ei bod hi'n bleser gen i ddod â’r ddadl fer yma gerbron y Senedd heddiw, er mwyn achub ar y cyfle i amlygu ac amlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae’r diwydiant rasio ceffylau yn ei wneud nid yn unig yng nghyd-destun y byd chwaraeon yng Nghymru, ond wrth gwrs yn economaidd hefyd. A dwi'n hapus iawn i gytuno i gyfraniadau hefyd i'r ddadl hon gan Alun Davies, Sam Kurtz, Jack Sargeant a James Evans.
Roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn i'n dechrau drwy sôn ychydig am sut y des i i fod â diddordeb yn y gamp, oherwydd, cyn rhyw ddwy, dair blynedd yn ôl, mi oeddwn i, mae'n debyg, yr un peth â rhan fwyaf o bobl yn y wlad yma, ddim yn ymddiddori mewn gwirionedd, a dim ond yn cael rhyw bunten fach ar y Grand National yn Aintree, efallai, bob blwyddyn neu ddwy. Ond fe newidiodd hynny yn ystod cyfnod COVID i fi. Pan gafodd rasio y golau gwyrdd i ailddechrau y tu ôl i ddrysau caeedig, wrth gwrs, ym mis Mehefin 2020, hon oedd y gamp fawr gyntaf i ddychwelyd i'n sgriniau teledu ni ar adeg, wrth gwrs, pan oedd llawer ohonon ni'n dal i fyw o dan gyfyngiadau llym. Ac fel rhywun sydd ag awch barhaus i wylio pob math o chwaraeon, ond yn amlwg, fel rôn i'n ei ddweud, heb gymryd llawer o ddiddordeb mewn rasio ceffylau o'r blaen, fe wnes i wylio yr adeg hynny ac fe wnes i fwynhau gwylio yr adeg hynny, a mwynhau yn fawr iawn, mae'n rhaid i fi ddweud. Fe amlygodd y cyfnod yna i fi bŵer chwaraeon o safbwynt creu adloniant, ac yn sicr mi wnes i ddarganfod rasio ceffylau yn y cyfnod yna. Ac yn wir, mi roddodd y cyfnod anodd yna hobi newydd i fi yn hynny o beth—rhywbeth dwi wedi mwynhau darganfod mwy amdano fe, dysgu mwy amdano fe yn y cyfnod ers hynny.