Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o glywed am yr holl ddiddordeb mewn rasio ceffylau yn y Siambr heddiw. Rwy'n ffodus fod gennyf yn fy etholaeth fy hun, yng nghymuned Towyn, yr unig drac rasio harnais yng Nghymru, a hoffwn eich gwahodd, Ddirprwy Weinidog, i ymuno â mi am noson yn y rasys yn Nhowyn—a phawb arall yn y Siambr—er mwyn ichi ddod i weld y pleser y mae'n ei roi i lawer o bobl. A wnewch chi ymuno â mi i ymweld â thrac rasio harnais Towyn, yn Nhir Prince yn Nhowyn?