Amseroedd Aros Ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:30, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, bron bob wythnos, mae yna gwestiynau'n ymwneud â'r oedi annerbyniol sy'n wynebu cleifion wrth aros am ambiwlansys, ac mae pob achos o oedi'n creu perygl i fywydau pobl. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ar ôl achos o oedi o'r fath yn y Fenni yn gynharach yn y mis. Roedd yr etholwr mewn parti pen-blwydd priodas ac aeth un o'r rhai oedd yn bresennol yn sâl iawn a syrthio'n anymwybodol. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac er mawr syndod ac arswyd i'r rhai oedd yn bresennol, dywedwyd wrthynt y byddai'n rhaid aros saith awr am ambiwlans. Nawr, yn ffodus, dadebrodd yr unigolyn dan sylw, ond fe allai mor hawdd fod wedi bod yn wahanol iawn. Roedd yr un etholwr yn cofio digwyddiad tebyg chwe blynedd yn ôl adeg y Nadolig, pan alwyd am ambiwlans ac fe gyrhaeddodd o fewn munudau. Maent wedi dweud bod y digwyddiad mwy diweddar wedi gwneud iddynt deimlo pe baent yn mynd yn sâl yn sydyn, na fyddai unrhyw bwrpas galw am help. Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi ac i fy etholwr y bydd y sefyllfa'n gwella?