O'r Ysbyty i'r Cartref

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:27, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rydym yn gwybod bod ysbytai'n ei chael hi'n anodd rheoli eu capasiti gwelyau, gyda gormod o bobl sy'n ddigon iach yn feddygol i'w rhyddhau ond nid yw'n bosibl gwneud hynny am amryw o resymau. Mae'r cynllun o'r ysbyty i'r cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn un fenter y dylem ddysgu ohoni, ond pa gamau eraill y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i helpu pobl i symud o'r ysbyty, fel rhaglenni rhyddhau i asesu mwy uchelgeisiol i helpu nid yn unig ein hysbytai, ond yn bwysicaf oll, yr unigolion y gellid asesu eu hanghenion yn well i ffwrdd o amgylchedd yr ysbyty?