O'r Ysbyty i'r Cartref

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:20, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi canlyniadau positif ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Mae wedi helpu i leihau nifer y dyddiau gwely a ddefnyddir yn Ysbyty Tywysoges Cymru drwy gefnogi rhyddhau amserol, ac mae wedi cefnogi pobl sy'n agored i niwed i gynyddu eu hincwm i'r eithaf drwy fynediad at fudd-daliadau perthnasol.