Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Dyw amseroedd ymateb ambiwlansys ar draws Cymru ddim ble ddylen nhw fod, ond ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd â’r perfformiad gorau yng Nghymru ym mis Medi yn erbyn y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch. Mae cynllun cenedlaethol yn ei le i sbarduno gwelliant ambiwlansys gyda chefnogaeth £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.