Amseroedd Aros Ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:35, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rydych chi wedi dweud yn gyson eich bod yn edrych ar ddull system gyfan, o feddygon teulu i oedi cyn trosglwyddo gofal, a byddem yn cytuno â hyn. Ond mae dros flwyddyn bellach ers i chi gyhoeddi eich chwe nod ar gyfer gofal brys, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Nid bai parafeddygon gweithgar yw dim o hyn wrth gwrs, ond yn hytrach, y cynllunio gwael gan y Llywodraeth Lafur hon. Weinidog, nid ydym wedi anghofio bod y Gweinidog diwethaf wedi dweud y byddai'n beth ffôl cyhoeddi cynllun adfer tra bod y pandemig yn dal i fynd rhagddo, a nawr rydym yn talu'r pris. Weinidog, rydym yn agosáu at y gaeaf, fel y nodoch chi'n gynharach; rydym yn gwybod y bydd y sefyllfa'n dirywio, hyd yn oed heb streic nyrsys. Pa fesurau brys rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw ein gwasanaeth ambiwlans yn talu'r pris am gynllunio gwael gan y Llywodraeth hon?