Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Wel, nid oeddwn yn y Senedd 10 mlynedd yn ôl hyd yn oed, felly ni allaf ddweud wrthych, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gwneud—. Mae'n rhaid i chi ystyried bod bil o £22 miliwn yn wahanol iawn i'r hyn fyddai'r bil heddiw, sef £80 miliwn—a yw'n £80 miliwn, tua £80 miliwn; £74 miliwn neu oddeutu hynny—sy'n wahaniaeth sylweddol. A gadewch inni gofio bod hyn pan nad yw'r gyllideb gyfalaf yn cynyddu. Felly, mae honno'n broblem i ni, ac ni allwn wneud llawer am y cyfalaf hwnnw oni bai ein bod ni'n cael mwy o arian gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod beth rydych chi'n mynd i'w ddweud; rydych chi'n mynd i ddweud 'Ie, cymerwch gyfrifoldeb'. Fe wnaf gymryd cyfrifoldeb os—[Torri ar draws.] Rwy'n cymryd cyfrifoldeb, ond os nad oes gennyf y gyllideb gyfalaf, sut ar y ddaear ydw i i fod i fynd i'r afael â'r materion rydych chi fel Torïaid am i mi fynd i'r afael â hwy?