Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch, Weinidog. Fe wnaethoch chi a minnau ymuno â lansiad ymgyrch newydd 'Cut the Crap' Crohn's and Colitis UK yr wythnos diwethaf, a chawsom glywed tystiolaeth gan y rhai sy'n byw gyda Crohn's, ac roeddent yn gadarn o'r farn fod diagnosis cynnar yn bwysig. Yr wythnos diwethaf hefyd, fe wneuthum estyn allan at fy nhrigolion a fy etholwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gofyn iddynt rannu eu profiadau o ddiagnosis, cymorth a thriniaeth, ac unwaith eto, siaradodd llawer o bobl am y ffordd roeddent wedi cael diagnosis anghywir, gydag un fenyw'n dweud ei bod wedi cymryd 30 mlynedd iddi ddarganfod bod ganddi glefyd Crohn mewn gwirionedd. Er mwyn gwneud hyn yn well i bobl, mae angen inni sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael offer i adnabod symptomau Crohn's a colitis, a mynediad at y profion priodol er mwyn osgoi diagnosis anghywir. Felly, Weinidog, pa gefnogaeth y gellir ei rhoi i feddygon teulu, yn enwedig, i adnabod symptomau Crohn's a colitis pan ddaw pobl i'w gweld gyntaf?