Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:42, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn derbyn yr ateb hwnnw, Weinidog iechyd, gan fod hyn wedi'i ddatganoli fel cyfrifoldeb eich Llywodraeth ers bron i chwarter degawd. Ac mae'n ddiddorol eich bod chi'n dweud, yn ôl yn 2018, 2019, pan oeddech chi'n crafu'n ddiobaith am bleidleisiau, fod eich rhagflaenydd, Vaughan Gething, a fy rhagflaenydd i, Ann Jones o'r Blaid Lafur, wedi postio fideo ar y cyfryngau cymdeithasol—[Torri ar draws.]