Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Weinidog, mewn sawl cymuned yng Ngorllewin De Cymru gwelwn lefel wael o iechyd y cyhoedd yn effeithio nid yn unig ar yr unigolion hynny a'u cyfleoedd mewn bywyd, ond ar y gwasanaethau iechyd y disgwylir iddynt eu trin. Mae iechyd y cyhoedd gwael yn effeithio'n sylweddol ar allu ein gwasanaethau iechyd a gofal, gyda chyfrannau sylweddol o'n cyllideb iechyd yn ymateb i ddewisiadau ffordd o fyw pobl. Mae ein cyfradd ysmygu, yfed alcohol, deiet gwael, a diffyg ymarfer corff yn peryglu bywydau pobl. A yw'n amser nawr i adolygu'r ymyriadau iechyd y cyhoedd i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â lefel wael o iechyd y cyhoedd a gwneud hyn yn flaenoriaeth i'r GIG ac i'n gwlad? Diolch.