Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Felly, yn sydyn iawn, fi sy'n gyfrifol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol pawb o fewn y grŵp Llafur. Mae'n ddrwg gennyf, bobl, nid wyf am gymryd hynny. Mae gennyf ddigon o gyfrifoldeb fel y mae. Nid oedd Ann yn y Llywodraeth, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i chi ddeall hynny. Os yw hynny'n wir, rwy'n mynd i'ch gwneud chi'n gyfrifol am yr hyn a ddywedodd Liz Truss. A ydych chi eisiau gwneud hynny? Fe wnaf eich gwneud chi'n gyfrifol am hynny.