Mynediad at Wasanaethau'r GIG yn y Canolbarth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 2:59, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Weinidog. Rwyf eisiau holi am ddannedd, ac yn enwedig dannedd pobl yng nghanolbarth Cymru. Mae tua 15,000 o bobl yn aros am ddeintydd GIG ar draws Cymru—mae hynny'n golygu bod amser aros o tua dwy flynedd i bobl gael deintydd GIG. Rwy'n deall bod problemau a materion yn codi ynghylch rhestrau aros, ac rwyf wedi codi mater dannedd pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru sawl gwaith. Ond tybed a wnewch chi ddweud ychydig bach mwy wrthym ynglŷn â beth yw eich cynlluniau i wneud yn siŵr fod pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n cael gwasanaeth GIG, oherwydd, ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym yw gwasanaeth dwy haen lle mae'r cyfoethog yn gallu fforddio mynd at ddeintydd, ac nid yw'r rhai sydd â'r angen mwyaf, mae'n debyg, y rhai sy'n dlotach, yn cael y cyfle hwnnw. Diolch yn fawr iawn.