Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n barod iawn i gael golwg ar beth yw'r cyfleoedd a'r manteision o wneud hynny. Fel y dywedaf, cyfarfûm â Choleg Brenhinol y Bydwragedd heddiw, a'r un peth rwy'n ymwybodol iawn ohono, os ydych yn ei gael yn anghywir gyda mamolaeth, yw bod y costau'n gwbl anferthol. Felly, mae'n fuddsoddiad inni sicrhau nad ydym yn ei gael yn anghywir, oherwydd, os ydym yn ei gael yn anghywir, gall arwain at oes o driniaeth i'r plant hynny. Felly, ymyrraeth gynnar—. Mae hyn yn ymwneud ag atal o ddifrif a sefyllfa lle gallem arbed swm enfawr o arian i ni'n hunain mewn gwirionedd. Byddaf yn edrych yn benodol ar Test for Tommy, ac yn dychwelyd atoch.