Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n gyfrifol, ond gadewch imi ddweud, nid yw wedi helpu fod gennyf bobl bellach yn gweithio yn y GIG sydd, o ganlyniad uniongyrchol—canlyniad uniongyrchol—i Lywodraeth Liz Truss, na wnaeth bara'n hir iawn, yn gweld eu morgeisi'n codi—[Torri ar draws.] Mae eu morgeisi'n codi, a'ch bai chi a'ch problem chi yw hynny, ac mae'n rhaid ichi gymryd cyfrifoldeb am hynny.