Garth Bakery

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:15, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch am y cwestiwn. Mae'n drueni mawr fod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae tîm Cymru'n Gweithio a thîm ReAct+, ynghyd â'r Ganolfan Byd Gwaith, yn ymgysylltu â'r gweithwyr, ac rwy'n deall bod cymorth wedi'i gynnig hefyd gan yr awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf. Bydd ReAct+ yn darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau wedi'u teilwra i'r staff sydd wedi'u heffeithio dros y dyddiau nesaf.