Garth Bakery

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:19, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Yn amlwg, rydym yn rhannu'r un rhanbarth, ac rwyf innau hefyd wedi cael nifer o etholwyr yn codi'r pryderon yma. Hoffwn gysylltu fy hun â'i holl sylwadau a chwestiynau, ac yn sicr, mae'n amser gofidus iawn gan ei fod yn fusnes mor werthfawr, fel rydych wedi dweud, Vikki.

Ar bwynt ychydig yn wahanol, bydd colli'r ffatri hon hefyd yn arwain at heriau cyflenwi bwyd sylweddol i'r ysgolion ac archfarchnadoedd a werthai eu bara a'u cynnyrch. Roedd Garth Bakery yn cynhyrchu 300,000 o roliau bob wythnos, ac fe fydd hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder, ac mae pobl sy'n poeni am hyn nawr wedi cysylltu â mi. A fydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau bach lleol i helpu i fynd i'r afael â'r prinder bwyd sy'n debygol o godi yn sgil cau'r busnes?